Hen Destament

Salmau 34:1-5-12-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-5. Bendithiaf yr Arglwydd bob amser,Yn Nuw y caf bleser o hyd;Cydfolwch â mi, chwi rai gwylaidd,Dyrchafwn ei enw ynghyd.Pan geisiais yr Arglwydd, ateboddA’m gwared o’m hofn. Gloyw ywWynebau’r rhai nas cywilyddir,Y rhai sydd yn edrych ar Dduw.

6-8. Myfi yw’r un isel a waeddodd,A’r Arglwydd a’m clywodd yn syth,A’m gwared o’m holl gyfyngderau.Gwersylla ei angel ef bythO amgylch y rhai sy’n ei ofni,A’u gwared. Gwyn fyd pawb a wnaEi loches yn Nuw. Dewch a phrofwch,A gweld fod yr Arglwydd yn dda.

9-11. Ei seintiau ef, ofnwch yr Arglwydd.Nid oes eisiau byth ar y rhaiA’i hofna. Y mae yr anffyddwyrYn dioddef o hyd dan eu bai,Ond nid yw y rhai sydd yn ceisioYr Arglwydd yn brin o ddim da.Dewch, blant, gwrandewch arnaf, a dysgafI chwi ofn y Duw a’ch boddha.

12-17. Oes rhywun ohonoch sy’n chwennychByw’n hir, gweld daioni a’i fwynhau?Ymgadw rhag traethu drygioni,Gwna dda, a chais hedd sy’n parhau.Mae’r Arglwydd yn gwarchod y cyfiawn,A’i glustiau’n agored i’w cri,Ond mae’n gwrthwynebu’r drygionus,I ddifa pob cof am eu bri.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 34