Hen Destament

Salmau 31:1-4-22-24 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;Na foed c’wilydd arnaf byth;Achub fi yn dy gyfiawnder.Gwared fi yn union syth.Bydd i mi yn graig a noddfa.Er mwyn d’enw, tywys fi.Tyn fi o’r rhwyd sy’n cau amdanaf,Cans fy noddfa ydwyt ti.

5-8. I’th law di cyflwynaf f’ysbryd.Rwyt ti, Arglwydd, yn casáuPawb sy’n glynu wrth wag-ofereddAc addoli duwiau gau.Llawenhaf yn dy ffyddlondeb.Gwelaist fy nghyfyngder prudd;Ac ni’m rhoddaist yn llaw’r gelyn,Ond gollyngaist fi yn rhydd.

9-11. Trugarha! Mae’n gyfyng arnaf.Collodd fy holl gorff ei hoen.Darfod mae fy nerth gan dristwchA’m blynyddoedd gan fy mhoen.I’m gelynion rwyf yn ddirmyg,I’m cymdogion rwyf yn wawd,I’m cyfeillion rwyf yn arswyd;Ffy dieithriaid rhag fy ffawd.

12-15. Fe’m hanghofiwyd fel un marw;Llestr a dorrwyd wyf yn awr.Mae rhai’n cynllwyn am fy mywyd:Ar bob tu mae dychryn mawr.Ond rwyf fi’n ymddiried ynot,Ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw”.Yn dy law y mae f’amserau.Gwared fi, a byddaf byw.

16-18. Na foed arnaf byth gywilydd,Ond llewyrcha di dy wedd.Cywilyddia y drygionus,A’u distewi yn y bedd.Taro di yn fud wefusauY rhai beilchion a thrahausSydd yn siarad am y cyfiawnYn gelwyddog a sarhaus.

19-21. Mawr i’r rhai sy’n d’ofni, Arglwydd,Dy ddaioni di o hyd.Yr wyt yn rhoi lloches iddynt,A’i amlygu i’r holl fyd.Fe’u cysgodi rhag gwag glebranY tafodau cas eu si.Bendigedig yw yr Arglwydd:Bu mor ffyddlon wrthyf fi.

22-24. Yn fy nychryn fe ddywedais,“Torrwyd fi yn llwyr o’th ŵydd”;Ond pan waeddais am dy gymorth,Clywaist ti fy ngweddi’n rhwydd.Carwch Dduw, ei holl ffyddloniaid,Cans fe’ch ceidw â’i law gref.Byddwch wrol eich calonnau,Bawb sy’n disgwyl wrtho ef.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 31