Hen Destament

Salmau 27:1-2-13-14 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Duw yw f’achubiaeth a’m golau, rhag pwy byth yr ofnaf?Ef yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?Pan ddaw’r di-dduwFel pe i’m llyncu yn fyw,Baglant wrth ruthro amdanaf.

3-4a. Pe deuai byddin i’m herbyn, ni fyddwn yn ofnus.Pe deuai rhyfel i’m rhan, mi a fyddwn hyderus.Un peth gan DduwA geisiais i, sef cael bywByth yn ei dŷ tangnefeddus.

4b-5. Yno cawn edrych am byth ar hawddgarwch yr Arglwydd,A gofyn iddo am gyngor, cans yn nydd enbydrwyddFe’m cyfyd iAr graig o afael y lli.Cuddia fi ym mhabell ei sicrwydd.

6. Cyfyd fy mhen i uwchlaw fy ngelynion yn ebrwydd.Offrymaf finnau’n ei deml aberthau hapusrwydd.Llawen fy llefPan blygaf ger ei fron ef.Canaf, canmolaf yr Arglwydd.

7-9. Gwrando fi, Arglwydd, pan lefaf, a dyro im ateb;Canys dywedais amdanat ti, “Ceisia ei wyneb”.Fe fuost tiO Dduw’n waredwr i mi.Paid â throi i ffwrdd mewn gwylltineb.

10-12. Derbyniai Duw fi hyd yn oed pe bai fy rhieniYn cefnu arnaf. O Arglwydd, dysg di dy ffordd imi.I’r llwybr daArwain fi, canys fe wnaFy ngelyn imi gamwri.

13-14. Caf weld daioni yr Arglwydd, mi wn hyn i sicrwydd,Yn nhir y byw. Disgwyl dithau wrth Dduw a’i berffeithrwydd.Disgwyl, a byddWrol dy galon mewn ffydd.A disgwyl di wrth yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 27