1-2. Fy Nuw, fy Nuw, pam y’m gadewaist i?Pam cadw draw oddi wrth holl eiriau ’nghri?Rwy’n gweiddi arnat ddydd a nos bob awr,Ond nid atebi fi’n fy mlinder mawr.
3-5. Ond fe’th orseddwyd di, y Sanctaidd Un,Yn foliant Israel. Ynot ti dy hunYr ymddiriedai’n tadau dan eu clwy:Achubwyd ac ni chywilyddiwyd hwy.
6-8. Pryf ydwyf fi. Nid ydwyf neb. Rwy’n wawd.Mae pawb a’m gwêl yn wfftio at fy ffawd,Gan ddweud, “Fe roes ei achos i Dduw’r nef,A chan fod Duw’n ei hoffi, achubed ef”.
9-11. Ond ti o groth fy mam a’m tynnodd i;Fe’m bwriwyd ar fy ngeni arnat ti.Paid â phellhau oddi wrthyf, cans nid oesNeb a rydd gymorth im yn nydd fy loes.
12-14a. Amdanaf mae gwŷr cryfion wedi cau,Fel teirw Basan. Llewod ŷnt mewn ffauYn rheibio a rhuo, ac y mae eu stŵrYn gwasgu’r nerth o’m corff, fel tywallt dŵr.
14b-15a. Datododd fy holl esgyrn, ac fe lwyrDoddodd fy nghalon, fel pe bai yn gwyrMae ’ngheg yn sych fel cragen ar y stryd,A glŷn fy nhafod yn fy ngenau mud.
15b-17a. Fe’m bwriaist i lwch angau. Y mae cŵnO’m cylch, dihirod brwnt yn cadw sŵn.Tyllant fy nhraed a’m dwylo â’u gwayw dur,A gallaf gyfrif f’esgyrn yn fy nghur.
17b-19. Dan rythu arnaf, rhannant yn eu mysgFy nillad. Bwriant goelbren ar fy ngwisg.Ond ti, O Arglwydd, paid â sefyll draw;O brysia, rho im gymorth nerth dy law.