Hen Destament

Salmau 19:1-2-11-13a Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Mae’r nef yn adrodd mawr ogoniant Duw,A thraetha’r wybren waith ei ddwylo byw.Byrlymu siarad y mae dydd wrth ddyddA nos wrth nos am ei gyfeillach gudd.

3-4a. Mud yw eu llais, ac nid oes ganddynt iaithNa geiriau. Eto, drwy’r holl ddaear faithFe â eu sain, a chlyw eithafoedd bydSŵn eu lleferydd am ein Duw o hyd.

4b-6. Daw’r haul o’i babell megis priodfab llonNeu fabolgampwr cryf yn curo’i fron.Amgylchu’r wybren y mae’i daith a’i des,Ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.

7-8. Mae cyfraith berffaith Duw’n dwyn egni’n ôl;Tystiolaeth sicr Duw’n gwneud doeth o’r ffôl.Mae deddfau cywir Duw yn llawenhau;Gorchymyn Duw’n goleuo llygaid cau.

9-10. Ofn Duw sydd lân, a phery byth yn ir.Mae barnau Duw yn gyfiawn ac yn wir.Hyfrytach ŷnt nag aur neu drysor cêl,Melysach na diferion diliau mêl.

11-13a. Rhybuddiant ni; o’u cadw gwobr a fydd.Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.Rhag pechod hyf, a yrr dy was ar ŵyr,O cadw fi, rhag iddo ’nhrechu’n llwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 19