Hen Destament

Salmau 145:1-3-20-21 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Fy Nuw, O Frenin, fe’th ddyrchafaf di;Dy enw beunydd a fendithiaf fi.Mawr yw yr Arglwydd, teilwng iawn o glod,Ac anchwiliadwy ydyw ei holl fod.

4-5. Molianna’r naill genhedlaeth wrth y llallDy holl weithredoedd nerthol yn ddi-ball.Dywedant am d’ysblander di o hyd,A sylwi ar dy ryfeddodau i gyd.

6-7. Cyhoeddant rym dy holl weithredoedd mawr,Ac adrodd am dy fawredd bob yr awr.Dygant i gof dy holl ddaioni, O Dduw,A chanu am dy gyfiawnder tra bônt byw.

8-9. Graslon a llawn trugaredd ydyw Duw,Araf i ddigio, llawn ffyddlondeb yw.Daionus yw yr Arglwydd wrth bob un,Trugarog wrth holl waith ei ddwylo’i hun.

10-12. Dy waith i gyd a’th fawl, ac mae dy saintYn dy fendithio, O Dduw, gan ddweud am faintDy nerth, a sôn am rwysg dy deyrnas diI beri i bawb weld ei hysblander hi.

13. Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas di,Saif dy lywodraeth byth heb golli’i bri.Ffyddlon yw’r Arglwydd yn ei eiriau i gyd,Trugarog ei weithredoedd ef o hyd.

14-16. Cwyd bawb sy’n syrthio; gwna y cam yn syth;Try llygaid pawb mewn gobaith ato byth;Â’th law’n agored, bwydi hwy, O Dduw.Diwelli, yn ôl d’ewyllys, bopeth byw.

17-19. Cyfiawn yw’r Arglwydd da yn ei holl ffyrdd,A ffyddlon yw yn ei weithredoedd fyrdd;Nesâ at bawb sy’n galw arno ef.Gwna eu dymuniad, gwrendy ar eu llef.

20-21. Gofala Duw am bawb a’i câr yn wir,Ond mae’n dinistrio’r holl rai drwg o’r tir.Moliannaf ef; ac fe fydd popeth bywByth yn bendithio enw sanctaidd Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 145