Hen Destament

Salmau 143:1-2-10-11a Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Arglwydd, clyw fy ngweddi, gwrando fy neisyfiad.Yn dy fawr ffyddlondeb a’th gyfiawnder, ateb fi.Paid â rhoi dy was, O Arglwydd, dan gondemniad:Nid oes neb byw yn gyfiawn o’th flaen di.

3-5a. Y mae’r gelyn wedi f’ymlid i a’m llorio,Gwnaeth im eistedd, fel y meirw, mewn tywyllwch du.Pallodd f’ysbryd ynof, ac rwyf yn arswydo,Ond rwyf yn cofio am yr hyn a fu.

5b-6. Ar bob peth a wnaethost yr wyf yn myfyrio,Ac yr wyf yn meddwl am holl waith dy ddwylo gwych.Arglwydd, rwyf yn estyn atat ti fy nwylo,Ac yn sychedu amdanat fel tir sych.

7-8a. Brysia ataf, Arglwydd; pallu y mae fy ysbryd;Arglwydd, paid â chuddio d’wyneb oddi wrthyf fi,Neu mi fyddaf fel y meirw yn yr isfyd.Rho im, y bore, flas o’th gariad di.

8b-9. Cans rwyf yn ymddiried ynot, Arglwydd ffyddlon.Dangos imi’r ffordd i’w cherdded, cans dyrchefais iF’enaid atat. Gwared fi rhag fy ngelynion,Oherwydd ffois am gysgod atat ti.

10-11a. Dysg im wneuthur dy ewyllys di a’th fwriad,Canys ti, O Arglwydd, ti yn unig, yw fy Nuw.Boed i’th ysbryd da fy arwain i dir gwastad;Er mwyn dy enw cadw fi yn fyw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 143