Os nad yw Duw yn adeiladu’r tŷ,Waeth heb i’w adeiladwyr wneud eu gwaith;Os nad yw’n gwylio’r ddinas ar bob tu,Waeth heb i’r gwylwyr gadw’n effro chwaith.Waeth heb llafurio beunydd hyd yr hwyr;Pan fôm ynghwsg bendithia Duw ni’n llwyr.