Hen Destament

Salmau 127:1-2-3-5 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Os nad yw Duw yn adeiladu’r tŷ,Waeth heb i’w adeiladwyr wneud eu gwaith;Os nad yw’n gwylio’r ddinas ar bob tu,Waeth heb i’r gwylwyr gadw’n effro chwaith.Waeth heb llafurio beunydd hyd yr hwyr;Pan fôm ynghwsg bendithia Duw ni’n llwyr.

3-5. Mae plant yn wobr oddi wrth yr Arglwydd Dduw;Ei wobr ef yw ffrwyth y groth, yn siŵr.Fel saethau syth yn llaw rhyfelwr ywMeibion ieuenctid dyn. Gwyn fyd y gŵr chawell llawn ohonynt. Perchir efGan ei elynion oll ym mhorth y dref.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 127