Hen Destament

Salmau 119:89-92-105-108 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

89-92. O Arglwydd, dy air sy’n dragwyddol;Mae wedi’i sefydlu’n y nef.Y mae dy ffyddlondeb yn para;Fe seiliaist y byd, a saif ef.Saif popeth yn ôl d’ordeiniadau,Cans gweision i ti ŷnt i gyd.Heb gysur dy gyfraith buaswnYn f’ing wedi marw cyn pryd.

93-96. Hyd byth nid anghofiaf d’ofynion;Trwy’r rhain y’m hadfywiaist, fy Nuw.Dy eiddo di wyf. Tyrd i’m hachub,D’ofynion sy’n llywio fy myw.Fe gais y drygionus fy nifa,Ond cadwaf dy farnau di-lyth;Cans gwelaf fod diwedd i bopeth,Ond pery d’orchymyn di byth.Eirinwg 98.98.D

97-100. O fel yr wy’n caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy’r dydd.Fe wna dy orchymyn fi’n ddoethachNa’m gelyn; mae’n gyson ei fudd.O ddysgu dy farnedigaethauDeallaf yn well nag y gwnaF’athrawon na neb o’r hynafgwyr,Cans cadw d’ofynion sydd dda.

101-104. Mi gedwais fy nhraed rhag drwg lwybr,Er mwyn imi gadw dy air.Ni throais fy nghefn ar dy farnau,Cans fe’m cyfarwyddaist yn daer.Mor felys d’addewid i’m genau,Melysach i’m gwefus na mêl.D’ofynion sy’n rhoi imi ddeall;Casâf lwybrau twyll, doed a ddêl.Gwalchmai 74.74.D

105-108. Llusern yw dy air i’m troed,Golau i’m llwybrau.Mi ymrwymais i erioedI’th holl farnau.Yn ôl d’air, adfywia fiO’m gofidiau.Clyw fy nheyrnged, a dysg diIm dy ddeddfau.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 119