Hen Destament

Salmau 119:1-4-29-32 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Gwyn fyd y rhai perffaith, sy’n rhodioYng nghyfraith yr Arglwydd o hyd,Yn cadw ei farnedigaethau,A’i geisio â’u calon i gyd,Y rhai na wnânt unrhyw ddrygioni,Sy’n rhodio ei ffyrdd heb lesgáu.Fe wnaethost d’ofynion yn ddeddfau,A disgwyl i ni ufuddhau.

5-8. O na allwn gerdded yn union,A chadw dy ddeddfau bob pryd.Ni ddaw im gywilydd os cadwafFy nhrem ar d’orchmynion i gyd.Clodforaf di â chalon gywirWrth ddysgu am dy farnau di-lyth.Mi gadwaf y cyfan o’th ddeddfau;Paid, Arglwydd, â’m gadael i byth.Kilmorey 76.76.D

9-10. Pa fodd y ceidw’r ifaincEu llwybrau’n lân fel ôd?Trwy gadw d’air. O Arglwydd,Fe’th geisiais â’m holl fod.Na ad i mi byth wyroOddi wrth d’orchmynion di.Dy eiriau a drysoraisO fewn fy nghalon i.

11-13. Rwyt fendigedig, Arglwydd;Dy ddeddfau dysg i mi.Bûm droeon yn ailadroddHoll farnau d’enau di.Yn dy farnedigaethauBûm lawen iawn fy mryd;Roedd fy llawenydd ynddyntUwchlaw holl gyfoeth byd.

14-16. Fe fyddaf yn myfyrioAr dy ofynion di,Yn cadw dy holl lwybrauO flaen fy llygaid i.Yr wyf yn ymhyfryduYn neddfau pur y nef,Ac am dy air, O Arglwydd,Byth nid anghofiaf ef.Crug-y-bar 98.98.D

17-20. Bydd dda wrth dy was. Er mwyn imiGael cadw dy air, gad im fyw;Ac agor fy llygaid i weledRhyfeddod dy gyfraith, fy Nuw.Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;Na chadw d’orchmynion yn gudd.Dihoena fy nghalon o hiraethAm brofi dy farnau bob dydd.

21-24. Ceryddaist y balch melltigedigSy’n torri d’orchmynion o hyd.Tyn ymaith eu gwawd, cans fe gedwaisDy farnedigaethau i gyd.Er bod tywysogion yn f’erbyn,Myfyriaf ar dy ddeddfau di.Dy farnedigaethau sydd hyfryd,Ac maent yn gynghorwyr i mi.Rutherford 76.76.D

25-28. Yn ôl dy air, O Arglwydd,O’r llwch adfywia fi.Atebaist fi o’m cyni;Dysg im dy ddeddfau di.Eglura ffordd d’ofynion,Myfyriais arni’n hir.Yn ôl dy air, cryfha fi;Anniddig wyf yn wir.

29-32. Boed twyll ymhell oddi wrthyf,Dy gyfraith yn gonglfaen.Dewisais ffordd ffyddlondeb;Dy farnau rhois o’m blaen.Na wawdia fi; cofleidiaisDy dystiolaethau coeth.Dilynaf ffordd d’orchmynion,Cans gwnaethost fi yn ddoeth.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 119