Hen Destament

Salmau 119:153-156-173-176 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

153-156. O edrych ar f’adfyd a’m gwared,Cans cofiais dy lân gyfraith di.Amddiffyn fy achos a’m hadfer,Yn ôl dy addewid i mi.Ni ddaw i’r rhai drwg iachawdwriaeth:I’r rhain aeth dy ddeddfau yn sarn.Mawr yw dy drugaredd, O Arglwydd;Adfywia fi’n unol â’th farn.

157-160. Ni throis rhag dy farnedigaethau,Er bod fy ngelynion yn daer.Ffieiddiais at bawb sy’n dwyllodrus,Am nad ŷnt yn cadw dy air.Gwêl fel yr wy’n caru d’ofynion;Dy gariad, fy Nuw, a’m bywha.Cans hanfod dy air yw gwirionedd;Tragwyddol dy farnau, a da.Crug-y-bar 98.98.D

161-164. Erlidir fi gan dywysogion,Ond d’air di yw f’arswyd bob awr;Ac rwy’n llawenhau yn d’addewid,Fel un wedi cael ysbail mawr.Casâf a ffieiddiaf bob dichell,Ond caraf dy gyfraith o hyd;A seithwaith y dydd rwy’n dy foli,Cans cyfiawn dy farnau i gyd.

165-168. Caiff carwyr dy gyfraith wir heddwch;Ni faglant ar ddim. Yr wyf fiYn disgwyl am dy iachawdwriaeth,Yn cadw d’orchmynion di-ri.Rwy’n caru dy farnedigaethau,Eu caru a’u cadw â graen,Ac i’th holl ofynion rwy’n ufudd,Cans mae dy holl ffyrdd di o’m blaen.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

169-172. Doed fy llef hyd atat, Arglwydd;Yn ôl d’air gwna fi yn ddoeth.Clyw ’neisyfiad; tyrd i’m gwaredYn ôl dy addewid coeth.Molaf di, fy Nuw, am itiDdysgu dy holl ddeddfau i mi.Canaf am dy addewidion;Cyfiawn yw d’orchmynion di.

173-176. Tyrd i’m helpu, cans dewisaisDy ofynion; blysio a wnaf,Arglwydd, am dy iachawdwriaeth;Yn dy gyfraith llawenhaf.Gad im fyw i’th foli, a’th farnau’nGymorth im. Fel dafad gollChwilia am dy was, oherwyddCofiais dy orchmynion oll.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 119