Hen Destament

Salmau 118:1-4-13-16 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,Cans ffyddlon yw o hyd.Uned tŷ Aaron oll yn awr,Ac Israel oll i gyd,A phawb o’r rhai dros ddaear lawrA’i hofna, i ddweud ynghyd:“Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth”.

5-8. Gwaeddais mewn ing, ac yna daethYr Arglwydd i’m rhyddhau.A Duw o’m tu, nid ofnaf waeth:Pa ddyn all fy llesgáu?A Duw o’m plaid, caf weld yn gaethY rhai sy’n fy nghasáu.Gwell rhoi ffydd yn Nuw nag yn nerth dyn.

9-12. Gwell yw gobeithio yn Nuw yn llwyrNag mewn arweinwyr ffôl.Daeth y cenhedloedd gyda’r hwyr,Ond gyrraf hwy yn ôl.Heidiant fel gwenyn o gylch cwyr,Fel tân mewn drain ar ddôl;Ond yn enw Duw gorchfygaf hwy.

13-16. Gwthiwyd fi’n galed, nes fy modAr syrthio, ond rhoes DuwGymorth i mi; fy nerth a’m clodA’m gwaredigaeth yw.Clywch gân achubiaeth heddiw’n dodO bebyll y rhai byw:“Mae deheulaw Duw yn rymus iawn”.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 118