Hen Destament

Salmau 111:1b-2-9-10 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1b-2. Diolch a wnaf i’r Arglwydd â’m holl fod;Gyda’r gynulleidfa uniawn seiniaf glod.Mawr yw ei weithredoedd, fe’u harchwilir mwyGan y rhai sy’n ymhyfrydu ynddynt hwy.

1a. Molwch yr Arglwydd. Alelwia.Molwch yr Arglwydd. Alelwia.

3-4. Llawn mawredd ac anrhydedd yw ei waith;Pery ei ddaioni i dragwyddoldeb maith.Fe wnaeth inni gofio’i ryfeddodau i gyd;Graslon a thrugarog ydyw Duw o hyd.

1a. Molwch yr Arglwydd. Alelwia.Molwch yr Arglwydd. Alelwia.

5-6. I bawb a’i hofna rhydd gynhaliaeth gref;Ac am byth fe gofia ei gyfamod ef.Profi a wnaeth ei rym pan roes i’w bobl hollDir ac etifeddiaeth y cenhedloedd oll.

1a. Molwch yr Arglwydd. Alelwia.Molwch yr Arglwydd. Alelwia.

7-8. Mae gwaith ei ddwylo’n gyfiawn a di-ail,Ac mae ei ofynion oll yn gryf eu sail;Fe’u sefydlwyd hwy’n dragwyddol yn y tir,Ac maent oll yn uniawn, y maent oll yn wir.

1a. Molwch yr Arglwydd. Alelwia.Molwch yr Arglwydd. Alelwia.

9-10. Prynodd ei bobl, a mynnu eu bod hwy’nCadw ei gyfamod sanctaidd ef byth mwy.Dechrau pob doethineb ydyw ofni Duw;Pawb sy’n ufudd iddo, un deallus yw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 111