Hen Destament

Salmau 11:1-3-4-7 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Yn yr Arglwydd cefais loches.Beth yw diben dweud mor ffôl:“Ffo i’r mynydd fel aderyn”,A’r drygionus ar fy ôl?Plyg ei fwa, yna saethuYn y caddug at y da.Os dinistrir y sylfeini,Yr un cyfiawn – beth a wna?

4-7. Gwêl yr Arglwydd ar ei orseddYn ei deml yn y nefNi feidrolion, ac fe’n profirGan ei lygaid tanbaid ef.Glawia farwor tân a brwmstanAr y drwg, a gwynt di-hedd.Cyfiawn yw, a châr gyfiawnder.Caiff yr uniawn weld ei wedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 11