Gwêl yr Arglwydd ar ei orseddYn ei deml yn y nefNi feidrolion, ac fe’n profirGan ei lygaid tanbaid ef.Glawia farwor tân a brwmstanAr y drwg, a gwynt di-hedd.Cyfiawn yw, a châr gyfiawnder.Caiff yr uniawn weld ei wedd.