Hen Destament

Salmau 107:15-16-43 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

15-16. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb DuwYn dryllio’r pyrth a’r heyrn drwy wyrth,Cans cariad yw.

17-20. Roedd rhai, yn sgîl eu pechod,Yn ynfyd a di-hedd;Casaent fwyd, a daethantYn agos at y bedd.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef.Iachaodd hwy, a’u hachub,Drwy nerthol air y nef.

21-22. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw:Mynegi i’r byd ei wyrthiau i gyd,Cans cariad yw.

23-30. Aeth rhai i’r môr mewn llongau,A gwelsant Dduw y gwyntYn corddi’r don nes troellentFel meddwon ar eu hynt.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef.Fe wnaeth i’r storm dawelu,A dug hwy tua thref.

31-32. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,A’i foli ymhlith ei bobl byth,Cans cariad yw.

33-36. Mae’n troi ffynhonnau’n sychdirI gosbi pobl ddrwg.Mae’n troi tir sych yn ffrwythlonI rai newynog. DwgHwy yno i godi dinas;Cânt blannu a chânt hau.Bydd ef yn eu bendithioAc yn eu hamlhau.

8. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,Am gnydau’r haf, am wartheg braf,Cans cariad yw.

37-42. Pan fyddant hwy dan orthrwm,Fe ddaw a thywallt gwarthAr eu gormeswyr creulon,A’u gyrru i anial barth;Ond cwyd y tlawd o’i ofid,Cynydda’i deulu i gyd.Fe lawenha yr uniawn,Ond bydd y drwg yn fud. 8 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw;

43. Os doeth wyt, myn roi sylw i hyn,Cans cariad yw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 107