Hen Destament

Salmau 104:27-30-33-35 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

27-30. Arnat dibynnu a wnântAm ymborth yn ei bryd.Pan roi, fe’u casglant, ac fe gântEu llwyr ddiwallu i gyd.Pan ei â’u hanadl frau,Dychwelant yn llwch mud,Ond daw dy anadl di i fywhauAc adnewyddu’r byd.

31-32. Gogoniant Duw a fo’nDragywydd a di-goll.A bydded iddo lawen sônAm ei weithredoedd oll.Pan fwria’i drem i’r llawr,Fe bair ddaeargrynfeydd;Pan gyffwrdd â’r mynyddoedd mawr,Fe fygant gan losgfeydd.

33-35. Canaf i’r Arglwydd gân,A’i foli tra bwyf byw,A boed fy myfyrdodau’n lânA chymeradwy i Dduw.Yr anfad yn ein plith,Erlidied hwy o’u tref.Bendithiaf fi yr Arglwydd byth,A molwch chwithau ef.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 104