Hen Destament

Salmau 102:1-3-19-22 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. O Arglwydd, clyw fy ngweddi; doedFy llef hyd atat ti.Na chudd dy wyneb rhagof; boedIt glywed ing fy nghri.Dyro im ateb yn ddi-oed,Cans darfod yr wyf fi,A’m holl gorff yn llosgi megis ffwrn.

4-7. Gwywo fel glaswellt a fu’n ir,A nychu yw fy ffawd.Oherwydd sŵn f’ochneidio hir,Mae f’esgyrn trwy fy nghnawd.Yr wyf fel brân mewn anial dir,Tylluan adfail tlawd,Fel aderyn unig ar ben to.

8-11. I’m gwawdwyr nid yw f’enw iOnd rheg o flaen y byd.Lludw fy mwyd, a dagrau’n lliA yfaf. Yn dy lidFy mwrw o’r neilltu a wnaethost ti;Mae ’mywyd i i gydMegis cysgod hwyr neu laswellt gwyw.

12-15. Arglwydd, am byth gorseddwyd di;Fe godi i drugarhau;Canys fe ddaeth yr amser iDosturio wrth Seion frau.Hoff gan dy weision ei llwch hi.Pan ddeui i’w chryfhauBydd cenhedloedd byd yn crynu o’th flaen.

16-18. Fe adeilada’r Arglwydd DduwEi Seion, a daw dyddY gwelir eto’i fawredd; clywGri’r gorthrymedig prudd.Hyn oll, ysgrifenedig ywI genedlaethau a fydd.Genir eto bobl i’w foli ef.

19-22. Cans bu i’r Arglwydd drugarhau.O’r nef fe fwriodd dremAr garcharorion, a’u rhyddhauRhag angau a gormes lem,Fel bod i’w enw mawr barhauDrwy holl JerwsalemPan ddaw’r byd ynghyd i’w foli ef.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 102