1. O cenwch glod i’r Arglwydd mâd,a moeswch ganiad newydd:Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,yr Arglwydd nefawl beunydd.
2. Cenwch chwi glod i’r Arglwydd nef,a’i enw ef bendigwch:A’i iechydwriaeth drwy grefydd,o ddydd i ddydd cyhoeddwch.
3. Datcenwch byth ei glod a’i râd,yngwlad y cenhedlaethoedd:A’i ryfeddodau ef ym mhlith,pob amryw, amrith bobloedd.
4. Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr,a rhagawr camoladwy:Uwch yr holl dduwiau y mae ef,yn frenin nef ofnadwy.
5. Duwiau y bobl eulynnod ynt,ni ellynt mwy na chysgod:A’n Duw ni a wnaeth nef a llawr,fal dyna ragawr gormod.
6. Cans mawr ydyw gogoniant nef,ac o’i flaen ef mae harddwch,Yn ei gyssegr ef y mae nerth,a phrydferth yw’r hyfrydwch.
7. Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,yn llawen rhowch i’r Arglwydd,I’r Arglwydd rhowch ogonedd fry,a nerth, a hynny’n ebrwydd.