Hen Destament

Salm 96:1-12 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O cenwch glod i’r Arglwydd mâd,a moeswch ganiad newydd:Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,yr Arglwydd nefawl beunydd.

2. Cenwch chwi glod i’r Arglwydd nef,a’i enw ef bendigwch:A’i iechydwriaeth drwy grefydd,o ddydd i ddydd cyhoeddwch.

3. Datcenwch byth ei glod a’i râd,yngwlad y cenhedlaethoedd:A’i ryfeddodau ef ym mhlith,pob amryw, amrith bobloedd.

4. Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr,a rhagawr camoladwy:Uwch yr holl dduwiau y mae ef,yn frenin nef ofnadwy.

5. Duwiau y bobl eulynnod ynt,ni ellynt mwy na chysgod:A’n Duw ni a wnaeth nef a llawr,fal dyna ragawr gormod.

6. Cans mawr ydyw gogoniant nef,ac o’i flaen ef mae harddwch,Yn ei gyssegr ef y mae nerth,a phrydferth yw’r hyfrydwch.

7. Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,yn llawen rhowch i’r Arglwydd,I’r Arglwydd rhowch ogonedd fry,a nerth, a hynny’n ebrwydd.

8. Rhowch ogoniant iw enw ef,yr Arglwydd nef byth bythoedd:A bwyd offrwm iddo a rowch,a chwi dowch iw gynteddoedd.

9. Addolwch f’Arglwydd gar ei froniw gyssegr, digon gweddol:A’r ddaiar rhagddo, hyd, a lled,dychryned yn aruthrol.

10. I’r holl genhedloedd dwedwch hynyr Arglwydd sy’n tyrnasu:Nid ysgog y byd sy’n sicr iawn,ef a wyr uniawn farnu.

11. O llawenhaed nefolaidd do,i’r ddaiar bo gorfoledd:Rhued y mor a’i donnau llawn,a’r pysg sy’ mewn ei annedd.

12. A gorfoledded y maes glâs,ei dwf, a’i addas ffyniant:A phob pren gwyrdd sydd yn y coed,i’r Arglwydd rhoed ogoniant.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 96