Hen Destament

Salm 95:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O dowch a chanwn i’r Arglwydd,efe yw llwydd ein bywyd:Ac ymlawenhawn yn ei nerth,ef yw ein prydferth iechyd.

2. O down yn un-fryd gar ei fron,â chalon bur ddiolchgar:Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,a chanwn psalmau’n llafar.

3. Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,y sy Dduw mawr yn ddiau:Tywysog mawr yw ef mewn trin,a brenin yr holl dduwiau.

4. Efe biau holl ddaiar gron,a’r dyfnder eigion danaw:Uchelder hefyd, eithafoedd,mynyddoedd sydd yn eiddaw.

5. Ef biau’r moroedd uwch pob traeth,ac ef a’i gwnaeth i ruo:Ei ddwylaw ffurfiasant yn wiry sych-dir ac sydd yntho.

6. O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,ac ymostyngwn iddaw:Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi’,ef a’n gwnaeth ni â’i ddwylaw.

7. Cans ef i ni y sydd Dduw da,a phobl ei borfa ydym:A'i ddefaid ym, os chwi a glywei air ef heddyw’n gyflym.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 95