Hen Destament

Salm 95:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O dowch a chanwn i’r Arglwydd,efe yw llwydd ein bywyd:Ac ymlawenhawn yn ei nerth,ef yw ein prydferth iechyd.

2. O down yn un-fryd gar ei fron,â chalon bur ddiolchgar:Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,a chanwn psalmau’n llafar.

3. Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,y sy Dduw mawr yn ddiau:Tywysog mawr yw ef mewn trin,a brenin yr holl dduwiau.

4. Efe biau holl ddaiar gron,a’r dyfnder eigion danaw:Uchelder hefyd, eithafoedd,mynyddoedd sydd yn eiddaw.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 95