Hen Destament

Salm 91:11-15 Salmau Cân 1621 (SC)

11. cans archawdd iw Angylion.I’th ffyrdd dy gadw, a’th gynllwyn,a’th ddwyn â’i dwylaw hardd-deg,

12. Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)taro dy droed wrth garreg.

13. Dy sangfa fydd ar y llew dig,a’r asp wenwynig sethri:Ar greulon genau’r llew o’r graig,ac ar y ddraig y sengi.

14. Mi a’i gwaredaf ef rhag brâd,am roi ei gariad arnaf:Am adnabod fy enw mau,yn ddiau y derchafaf.

15. Geilw arnaf, mi’ ai gwrandawaf,mewn ing y byddaf barod,Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,a chaiff drwy urddas fowrglod.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 91