10. Ni ddigwydd niwed yt’, ond da,na phla, na dim’ echrydon,I’th Eglwys a’th gynlleidfa nawdd,
11. cans archawdd iw Angylion.I’th ffyrdd dy gadw, a’th gynllwyn,a’th ddwyn â’i dwylaw hardd-deg,
12. Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)taro dy droed wrth garreg.
13. Dy sangfa fydd ar y llew dig,a’r asp wenwynig sethri:Ar greulon genau’r llew o’r graig,ac ar y ddraig y sengi.
14. Mi a’i gwaredaf ef rhag brâd,am roi ei gariad arnaf:Am adnabod fy enw mau,yn ddiau y derchafaf.
15. Geilw arnaf, mi’ ai gwrandawaf,mewn ing y byddaf barod,Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,a chaiff drwy urddas fowrglod.