6. Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,a gwawr o newydd arno:Ond pan y torrer er brydnawn,yn fuan iawn mae’n gwywo.
7. Cans yn dy lid difethwyd nigan ofni dy ddigofaint,
8. Rhoist di ein beiau gar dy fron,a’n holl ddirgelion dryghaint:
9. Cans drwy dy ddig mae’n dyddiau ni,a’n tegwch gwedi darfod:A’n holl flynyddoedd ynt ar ben,fel gorphen hen chwedl gorfod.
10. Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,dau pump chwaneg os bydd grym:Yna ein nerth ai’n boen blin iawn,i ffordd yr awn yn gyflym.
11. Ond pwy a edwyn nerth dy lid?mawr ofid sydd o’th sorri:Sef fel y mae dy ofn di’n fawr,dy ddig sydd ddirfawr inni.