Hen Destament

Salm 90:1-8 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Duw! buost in’ yn Arglwydd da,ac yn breswylfa i drigo,O bryd i bryd, felly yr aethpob rhyw genhedlaeth heibio.

2. Er cyn rhoi sail y mynydd mawr,cyn llunio llawr cwmpas-fyd,Duw! o dragwyddol wyd cyn neb,hyd dragwyddoldeb hefyd.

3. Weithiau i ddinistr y troi ni,troi dithau wedi’n rhydda:A dwedi cyn ein mynd i’r llwch,dychwelwch meibion Adda.

4. Cans dec can mlynedd fel doe ynt,pan elo’i helynt heibio,O’th flaen di, megis gwylfa nos,ni chaiff ymddangos etto.

5. Nid yw dyn ond fel hun,neu ail i addail, neu lifeiriant.Neu megis glâs lysieun gwan,mor fuan y newidiant.

6. Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,a gwawr o newydd arno:Ond pan y torrer er brydnawn,yn fuan iawn mae’n gwywo.

7. Cans yn dy lid difethwyd nigan ofni dy ddigofaint,

8. Rhoist di ein beiau gar dy fron,a’n holl ddirgelion dryghaint:

Darllenwch bennod gyflawn Salm 90