Hen Destament

Salm 9:8-18 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Cans efe a farna y byd,a’r bobl i gyd sydd yntho:Trwy gyfiownder, heb ofni neb,a thrwy uniondeb rhagddo.

9. Gwna’r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,trueiniaid fo’i hymddiffyn:Noddfa a fydd i’r rhai’n mewn pryd,pan fo caledfyd arnyn.

10. A phawb a’th edwyn rhon eu cred,a’i holl ymddiried arnad:Cans ni adewaist (Arglwydd) neb,a geisio’i wyneb attad.

11. Molwch chwi’r Arglwydd, yr hwn syddyn sanctaidd fynydd Seion:A dwedwch i’r bobl fal yr oeddei holl weithredoedd mowrion.

12. Pan chwilio efe am waed neu drais,fe gofia lais y truain:Pan eisteddo a’r faingc y frawdfe glyw y tlawd yn germain.

13. Dy nawdd Arglwydd, dydi ym’ sydddderchafydd o byrth angau,A gwel fy mlinder gan fy nghâs,y sydd o’m cwmpas innau.

14. Fel y mynegwyf dy holl wyrth,a hyn ymhyrth merch Seion:Ac fel y bwyf lawen a ffraeth,i’th iechydwriaeth dirion.

15. Y cenhedloedd cloddiasent ffoslle’i suddent, agos boddi:I arall lle cuddiasant rwyd,eu traed a faglwyd ynthi.

16. Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir,adwaenir wrth ei farnau:A’r annuwiol a wnaethai’r rhwyd,yn hon y daliwyd yntau.

17. Yr annuwiol i uffern aed,ac yno gwnaed ei wely:A’r rhai ollyngant Duw dros gof,bydd yno fyth eu lletty.

18. Cans byth y gwirion a’r dyn tlawdhyd dyddbrawd nis anghofir:Y gweiniaid a’r trueiniad, hwy,eu gobaith mwy ni chollir.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 9