2. Byddaf fi lawen yn dy glod,ac ynod gorfoleddaf:I’th enw (o Dduw) y canaf glod,wyd hynod, y Goruchaf.
3. Tra y dychwelir draw’n ei hol,fy holl elynol luoedd,Llithrant o’th flaen, difethir hwy,ni ddon hwy mwy iw lleoedd.
4. Cans rhoist fy marn yn fatter da,gwnaethost eisteddfa union:Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,tydi yw’r barnwr cyfion.
5. Ceryddaist, a distrywiaist diy cenhedlaethi cyndyn:Diwreiddiaist ynfyd yn y bon,ni bydd byth son am danyn.
6. Distrywiaist dithau (elyn glâs)do lawer dinas hyfryd:Darfu dy nerth byth, darfu hyn,a’r cof o honyn hefyd.
7. Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd,ac yn dragywydd pery:A pharod fydd ei faingc i farn,a chadarn ydyw hynny.
8. Cans efe a farna y byd,a’r bobl i gyd sydd yntho:Trwy gyfiownder, heb ofni neb,a thrwy uniondeb rhagddo.
9. Gwna’r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,trueiniaid fo’i hymddiffyn:Noddfa a fydd i’r rhai’n mewn pryd,pan fo caledfyd arnyn.