39. Diddymaist di dy air i’th was,a’th râs, a’th addewidion:Ac a’i halogaist ef yn fawr,gan daflu’i lawr ei goron.
40. A drylliaist ei fagwyrydd ef,a’i gaer gref rhoi’st yn adwy.
41. Yn egored felly y maeyn brae i bawb sy’n tramwy.
42. Iw gym’dogion gwarthrudd yw ef,a than law gref ei elyn:A llawen iawn y codent floedd,bob rhai a oedd i’w erbyn.
43. Troist hefyd fin ei gleddau ef,a’i law oedd gref a blygaist:
44. Darfu ei lendid ef a’i wawr,a’i drŵn i’r llawr a fwriaist.
45. Pryd ei ieuenctyd heibio’r aeth,a thi a’i gwnaeth cyn fyrred:A bwriaist drosto wradwydd mawr,o nen hyd lawr y torred.
46. Pa hyd fy Nuw y byddi’ nghudd?ai byth, fy llywydd nefol?A lysg dy lid ti fel y tânyn gyfan yn dragwyddol?
47. O cofia f’oes ei bod yn fyrr,ai’n ofer gynt y gwnaethostHoll blant dynion? o dal dy law,ac yn’ ni ddaw yn rhydost.
48. Pa wr y sydd a’i oes dan sel,na ddel marwolaeth atto?Pwy a all ddiangc, ac ni ddawy caib a’r rhaw i’w guddio?
49. O mae dy nodded Arglwydd gynt:mae helynt dy drugaredd:Mae dy lw, o ystyriol ffydd,i Ddafydd i’th wirionedd?
50. Cofia Arglwydd yn wradwydd llym’lle’r ydym ni, dy weision.Yr hwn a dawdd i’m monwes i,gan ffrost y Cowri mowrion.
51. Yr hwn warth ’r oedd d’elynion diyt’ yn ei roddi’n eidiog,(Fy Arglwydd Dduw) a’r un fyrrhâdi droediad dy eneiniog.
52. Moler yr Arglwydd byth: Amen,a byth Amen, hyd fytho.Moler yr Arglwydd byth: Amen,a byth Amen, hyd fytho.