27. Minnau gwnaf yntau im yn fab,yn gynfab ac etifedd:Ar frenhinoedd y ddaiar las,yn uwch ei ras a’i fowredd.
28. A chadwaf iddo (yr un wedd)drugaredd yn dragwyddol:A’m cyfammod iddo yn llawn,yn ffyddlawn, ac yn nerthol.
29. Gosodaf hefyd byth i’w had,nerth a mawrhâd uwch bydoeddA’i orseddfainc ef i barhau,un wedd a dyddiau’r nefoedd.
30. Ond os ei blant ef (drwy afrol)nid ânt yn ol fy nghyfraith,Os hwy ni rodiant, gan barhau,i’m beirn a’m llwybrau perffaith,
31. Os fy neddfau a halogant,ni chadwant fy holl eirchion,
32. Yna ymwelaf a’i cam gwrs,â gwiail scwrs, neu goedffon.
33. Ond ni thorraf ag ef un nod,o’m hammod a’m trugaredd:Ac ni byddaf fi ddim yn ol,o’m ystyriol wirionedd.
34. Ni thorraf fy nghyfammod glân,a ddaeth allan o’m genau,Ac ni newidiaf air o’m llw,mi a rois hwnnw’n ddiau.
35. Yn fy sancteiddrwydd tyngais im’na phallwn ddim i Ddafydd,
36. Bydd ei had a’i drwn, yn ddi draulo’m blaen fel haul tragywydd.
37. Yn dragywydd y siccrheir ef,fel cwrs (is nef) planedauHaul neu leuad, felly y byddei gwrs tragywydd yntau.
38. Ond ti a’n ffieiddiaist ar fyrr,ac yn ddiystyr lidiogDi a gyffroaist yn dra blin,wrth dy frenin eneiniog.
39. Diddymaist di dy air i’th was,a’th râs, a’th addewidion:Ac a’i halogaist ef yn fawr,gan daflu’i lawr ei goron.
40. A drylliaist ei fagwyrydd ef,a’i gaer gref rhoi’st yn adwy.