Hen Destament

Salm 89:10-27 Salmau Cân 1621 (SC)

10. A nerth dy fraich curi dy gâs,yr Aipht, fal gwâs lluddedig,

11. Eiddod nef a daiar i gyd,seiliaist y byd a’i lanw:

12. Gogledd, deau, Tabor, Hermon,sy dirion yn dy enw.

13. I’th fraich mae grym’, mae nerth i’th law,a’th gref ddeheulaw codi:

14. Nawdd a barn yw dy orsedd hir,a nawdd a gwir a geri.

15. Eu gwnfyd i’r holl bobl a fydd,a fo’i llawenydd ynod:Ac yn llewych dy wyneb glâny rhodian i gyfarfod.

16. Yn d’unig enw di y cânt,fawl a gogoniant beunydd.Yn dy gyfiownder codi’ a wnânt,ac felly byddant ddedwydd.

17. Cans ti wyd gryfder eu nerth hwy,lle y caffent fwy o dycciant:Dydi a ddarchefi eu cyrn,ac felly cedyrn fyddant.

18. Cans o’r Arglwydd a’i ddaioni,y daw i ni amddiffin:O Sanct Israel drwy ei law,oddiyno daw ein brenin.

19. I’th sanct y rhoist gynt wybodaeth,drwy weledigaeth nefol:Gosodais gymorth ar gryf gun,derchefais un dewisol.

20. Cefais (eneiniais ef yn ol)fy ngwâs dewisol Dafydd

21. Ag olew sanct: Braich a llaw gref,rhoist gydag ef yn llywydd.

22. Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,na’i ddrygu un mab enwir:

23. O’i flaen y coetha’i elynion,a’i holl gaseion dihir.

24. Fy ngwirionedd, a’m trugaredd,rhof fi trwy gariad iddo,Ac yn fy enw fi ’yn ddi orn,dyrchefir ei gorn efo.

25. Gosodaf ei law ar y mor,ac o’r goror bwygilydd:A gosodaf ei law ddeau,hyd terfynau’r afonydd.

26. Ef a weddia arnaf fiiw galedi, gan ddwedyd,Ti yw fy nhad fy Nuw, fy ngharn,yn gadarn o’m ieuenctyd.

27. Minnau gwnaf yntau im yn fab,yn gynfab ac etifedd:Ar frenhinoedd y ddaiar las,yn uwch ei ras a’i fowredd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 89