Hen Destament

Salm 89:1-16 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Myfyriaf gerdd byth i barhau,o drugareddau’r Arglwydd:A'i wirionedd i’m genau fydd,hyd dragywydd yn ebrwydd.

2. Sef dwedais hyn: cair byth yn wir,adeiledir trugaredd:I barhau byth cair yn y nefdy gadarn gref wirionedd.

3. Fal hyn (o Dduw) attebaist ym’,mi a wneuthym rwym gan dynguI Ddafydd f’etholedig wâs,a’r gair o’m grâs yn tarddu.

4. Fal hyn sicrhâf dy hâd di byth,a gwnaf wehelyth drefniad.I’th gadarn faingc o oed i oed,mi a rof bob troed yn wastad.

5. Am hyn y sicrwyd trag’wyddawl:y nef o fawl dy wyrthiau:Yngorsedd sainct, ynghyrchfa hedd,am bur wirionedd d’eiriau.

6. Pwy sydd cystal â’n harglwydd cu,pe chwilid llu’r wybrennau?Ymysg Angylion pwy mal Ion,sef ymhlith meibion duwiau?

7. Drwy gynulleidfa ei Sainct ef,Duw o’r nef sydd ofnadwy:A thrwy’r holl fyd o’n hamgylch ni,i ofni sydd ddyladwy.

8. Pwy sydd debig i ti Dduw byw,o Arglwydd Dduw y lluoedd?Yn gadarn Ior, a’th wir i’th gylch,o amgylch yr holl nefoedd.

9. Ti a ostyngi y mor mawr,a’r don hyd lawr yn ystig:

10. A nerth dy fraich curi dy gâs,yr Aipht, fal gwâs lluddedig,

11. Eiddod nef a daiar i gyd,seiliaist y byd a’i lanw:

12. Gogledd, deau, Tabor, Hermon,sy dirion yn dy enw.

13. I’th fraich mae grym’, mae nerth i’th law,a’th gref ddeheulaw codi:

14. Nawdd a barn yw dy orsedd hir,a nawdd a gwir a geri.

15. Eu gwnfyd i’r holl bobl a fydd,a fo’i llawenydd ynod:Ac yn llewych dy wyneb glâny rhodian i gyfarfod.

16. Yn d’unig enw di y cânt,fawl a gogoniant beunydd.Yn dy gyfiownder codi’ a wnânt,ac felly byddant ddedwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 89