1. O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,mae ’ngweddi’n ufydd arnad,
2. Gostwng dy glust, o Arglwydd nef,a doed fy llef hyd attad.
3. Cans mae fy enaid mewn dull caeth,a’m heinioes aeth i’r beddrod:
4. Fel gwr marw y rhifwyd fi,a’m nerth oedd wedi darfod.
5. Mor farw a rhai wedi eu llâdd,a’i taflu ’nglhâdd mewn angof:A laddyt di mor siwr a hyn,na bai byth honyn atgof.
6. Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,ac mewn tywyllwch eithaf.