Hen Destament

Salm 86:11-17 Salmau Cân 1621 (SC)

11. Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)câf rhwydd dy wirionedd:Gwna fy nghalon yn un â thi,ac ofnaf fi dy fawredd.

12. Fy Arglwydd Dduw moliannaf diâ holl egni fy nghalon:Ac i’th fawr enw byth gan dant,y rhof ogoniant cyson.

13. Cans mawr yw dy drugaredd di,tu ac attaf fi yn barod,Gwaredaist f’enaid i o’r bedd,ac o’r gorddyfnedd isod.

14. Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,fel llu o weilch ewin-ddrud:Ceisient ddwyn f’einioes o’r byd hwn,i’w golwg gwn nad oeddud.

15. Ond tydi’n unig wyd hawddgâr,a chlaear dy drugaredd,Hwyr i’th lid ac i gymmod hawdd,llawn o nawdd a gwirionedd.

16. O edrych arnaf, moes dy râsi’th wâs y sydd i’th orllwyn:Dod ym’ dy nerth, cadw fal hynfi, plentyn dy lawforwyn.

17. O Dduw dod o’th serch ym’ arwydd,er gwradwydd i’m caseion:Pan welant dy fod yn rhoi nerthym’, ac ymadferth ddigon.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 86