Hen Destament

Salm 86:10-14 Salmau Cân 1621 (SC)

10. Cans tydi ydwyd fawr a phuryn gwneuthur rhyfeddodau:A thydi’n unig wyd yn Dduw,ni cheisiwn amryw dduwiau.

11. Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)câf rhwydd dy wirionedd:Gwna fy nghalon yn un â thi,ac ofnaf fi dy fawredd.

12. Fy Arglwydd Dduw moliannaf diâ holl egni fy nghalon:Ac i’th fawr enw byth gan dant,y rhof ogoniant cyson.

13. Cans mawr yw dy drugaredd di,tu ac attaf fi yn barod,Gwaredaist f’enaid i o’r bedd,ac o’r gorddyfnedd isod.

14. Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,fel llu o weilch ewin-ddrud:Ceisient ddwyn f’einioes o’r byd hwn,i’w golwg gwn nad oeddud.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 86