1. Gostwng o Arglwydd y glust dau,clyw fy ngweddiau trymion:Gwrando fi sy’ druan a thlawd,o’th barawd drugareddion.
2. Cadw fy oes, gwr cynnwys wy’,ac ytti’r ydwy’n credu:Duw bydd achubwr da i’th wâs,o’th râs dyrd i’m gwaredu.
3. Trugarha wrthif Arglwydd mâd,cans arnad llefa’n ddibaid:
4. Einioes dy wâs Duw llawenhâ,cans attad coda’ f’enaid: