8. Assur, yn gydfraich â phlant Lot,fal dyna gnot maleisus.
9. Tâl dithau adref yn y man,megis i Madian greulon,I Sisera, ne’i Jabin swrth,a laddwyd wrth lan Cizon.
10. Yn Endor gynt bu laddfa fawr,ar hyd y llawr ar wasgar:Gwna honynt hwythau laddfa ail,a’i cyrph yn dail i’r ddaiar.
11. Gosod eu bonedd hwy fel Zeb,ac Oreb yr un diwedd:A'i tywysogion fel Zeba,a Salmunna i orwedd.
12. Dwedent y mynnent yn eu bywgysegrfa Duw i’w meddiant:
13. Fel troad rhod, neu wellt mewn gwynt,Dyna yr hynt a gaffant.
14. Fal y llysg y tân bob pren crin,a’r fflam yr eithin mynydd:
15. Felly â’th ’storm, ymlid hwy’n gyntnâ dychryn corwynt efrydd.