Hen Destament

Salm 83:3-8 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Ymgyfrinachu dichell ynn’,y lle mae ganthyn fwriad:A dychymygu dilen brudd,i ni sy’n ymgudd danad.

4. Dwedasant, dewch difethwn hwyntna byddo honwynt genhedl:Ac na bytho byth (meddant hwy)am Israel mwy mor chwedl.

5. Ymgynghorasant bawb ynghyd,ac yn un fryd i’th erbyn,

6. Edom, Ismael, Moab blaid,a’r holl Hagariaid cyndyn.

7. Gebal: Ammon: Amalechiaid,Philistiaid a gwyr Tirus:

8. Assur, yn gydfraich â phlant Lot,fal dyna gnot maleisus.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 83