10. Yn Endor gynt bu laddfa fawr,ar hyd y llawr ar wasgar:Gwna honynt hwythau laddfa ail,a’i cyrph yn dail i’r ddaiar.
11. Gosod eu bonedd hwy fel Zeb,ac Oreb yr un diwedd:A'i tywysogion fel Zeba,a Salmunna i orwedd.
12. Dwedent y mynnent yn eu bywgysegrfa Duw i’w meddiant:
13. Fel troad rhod, neu wellt mewn gwynt,Dyna yr hynt a gaffant.
14. Fal y llysg y tân bob pren crin,a’r fflam yr eithin mynydd:
15. Felly â’th ’storm, ymlid hwy’n gyntnâ dychryn corwynt efrydd.
16. Llanw eu tâl’ o warth a chwys,ceisiant ar frys yr Arglwydd.
17. Ac yn dragwyddol iddynt bydd,gywilydd, mefl, a gwradwydd.
18. Difether hwynt: gwyped dyn byw,mai d’enw di yw Jehofah:Ac mai ti unic Dduw sydd ary ddaiar yn oruchaf.