Hen Destament

Salm 83:1-10 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Na ostega, na thaw, na fydddi lonydd Duw y lluoedd:

2. Wele, d’elynion yn cryfhau,gan godi’ pennau i’r nefoedd.

3. Ymgyfrinachu dichell ynn’,y lle mae ganthyn fwriad:A dychymygu dilen brudd,i ni sy’n ymgudd danad.

4. Dwedasant, dewch difethwn hwyntna byddo honwynt genhedl:Ac na bytho byth (meddant hwy)am Israel mwy mor chwedl.

5. Ymgynghorasant bawb ynghyd,ac yn un fryd i’th erbyn,

6. Edom, Ismael, Moab blaid,a’r holl Hagariaid cyndyn.

7. Gebal: Ammon: Amalechiaid,Philistiaid a gwyr Tirus:

8. Assur, yn gydfraich â phlant Lot,fal dyna gnot maleisus.

9. Tâl dithau adref yn y man,megis i Madian greulon,I Sisera, ne’i Jabin swrth,a laddwyd wrth lan Cizon.

10. Yn Endor gynt bu laddfa fawr,ar hyd y llawr ar wasgar:Gwna honynt hwythau laddfa ail,a’i cyrph yn dail i’r ddaiar.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 83