Hen Destament

Salm 79:9-13 Salmau Cân 1621 (SC)

9. O Dduw ein iechyd cymorth ni,er mwyn dy fri gogonol:A gwared er mwyn dy enw tau,ni rhag pechodau marwol.

10. Pan y gofynnant ple mae’n Duw,dod arnynt amryw fformod:I ddial gwaed dy ddwyfol blant,ac yno cânt hwy wybod.

11. Duw, doed ochenaid ger dy frondy garcharorion rhygaeth:Ac yn dy ddirfawr ogoniant,ymddiffyn blant marwolaeth.

12. Ein cymdogion a’th gablodd di,tâl i’r rhei’ni yn gwblolEu cabledd iw mynwesau’i hun,o Arglwydd gun gorchestol.

13. Ninnau dy bobl a’th ddefaid mân,a wnawn yt gân ogonawl,O oes i oes byth i barhau,ac i’th fawrhau’n dragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 79