3. Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,eu gwaed o amglch dinasCaerselem, heb roi corph mewn bedd,fel dyma ddiwedd atgas.
4. Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,i bawb o’n pobparth ydym.
5. O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?ai fel tân ffyrnig poethlym?
6. Tywallt dy lid ar bobl estron,rhai nid adwaenon m’onot:Ac ar dyrnasoedd ni eilw,(Duw) ar dy enw hynod.
7. Cans wyrion Jagof (bobl oedd gu)y maent iw hysu’n rhyfedd:Ac a wnaethant i’r rhei’ni fodpreswylfod anghyfannedd.
8. Na chofia’n camwedd gynt i’n hoes,Duw bryssia moes drugaredd:Dy nodded a’n rhagflaeno nisy’ mewn trueni’n gorwedd.
9. O Dduw ein iechyd cymorth ni,er mwyn dy fri gogonol:A gwared er mwyn dy enw tau,ni rhag pechodau marwol.
10. Pan y gofynnant ple mae’n Duw,dod arnynt amryw fformod:I ddial gwaed dy ddwyfol blant,ac yno cânt hwy wybod.
11. Duw, doed ochenaid ger dy frondy garcharorion rhygaeth:Ac yn dy ddirfawr ogoniant,ymddiffyn blant marwolaeth.
12. Ein cymdogion a’th gablodd di,tâl i’r rhei’ni yn gwblolEu cabledd iw mynwesau’i hun,o Arglwydd gun gorchestol.