Hen Destament

Salm 78:40-52 Salmau Cân 1621 (SC)

40. Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy,wrth fyned trwy’r anialwch?Gan ddigio Duw a’i lwyr dristhau,ynghreigiau y diffeithwch.

41. Troesant, profasant Dduw â’i chwant,gan demptio Sanct yr Israel:

42. Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,rhag cael o’i casddyn afael.

43. Rhoesai’n yr Aipht arwydd o’i râs,a’i wyrth yn ninas Zoan:

44. Y modd y troes eu dwfr yn waed,ni chaed dim glan-ddwfr allan.

45. Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,waed, gwybed, llau, a llyffaint:

46. Lindys, locust, i ddifa’i ffrwyth,a chenllysg lwyth, a mallhaint.

47. Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt,

48. Eu coedydd, a’i han’feiliaid: (gwydd)A chenllysg cessair, mellt a roes,bu wrth eu heinioes danbaid.

49. Rhoes arnynt bwys ei lid, a’i fâr,ac ing anghreugar digllon:Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a’i wg,anfonodd ddrwg angylion.

50. Rhyw ffordd a hon iw lid a droes,heb ludd iw heinioes angau,Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,yn ei ddigofaint yntau.

51. Yna y tarawdd un Duw Nafy plant cyntaf anedig:Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,sef am ei fod yn llawnddig.

52. Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd,)foi twysawdd drwy’r anialfan,Fel arwain defaid, llwybrau pell,yn wael ddiadell fechan.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 78