33. Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,mewn dychryn ac oferedd.
34. Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,os ceisient dramwy atto:Os doent drwy hiraeth at ei râs,yn forau glâs iw geisio.
35. Os cofient fod Duw iw holl hynt,graig iddynt a gwaredydd:
36. (Er ceisio siommi Duw’n y daith,â’i gweiniaith, ac â’i celwydd:
37. Er nad oedd eu calon yn iawn,na ffyddlawn iw gyfammod:)
38. Er hyn trugarhaei Duw o’r nef,a’i nodded ef oedd barod.Rhag eu difa, o’i lid y troes,ac ni chyffroes iw hartaith:
39. Cofiodd ddyn, os marw a wnai,nas gallai ddychwyl eilwaith.
40. Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy,wrth fyned trwy’r anialwch?Gan ddigio Duw a’i lwyr dristhau,ynghreigiau y diffeithwch.
41. Troesant, profasant Dduw â’i chwant,gan demptio Sanct yr Israel:
42. Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,rhag cael o’i casddyn afael.
43. Rhoesai’n yr Aipht arwydd o’i râs,a’i wyrth yn ninas Zoan:
44. Y modd y troes eu dwfr yn waed,ni chaed dim glan-ddwfr allan.
45. Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,waed, gwybed, llau, a llyffaint:
46. Lindys, locust, i ddifa’i ffrwyth,a chenllysg lwyth, a mallhaint.