Hen Destament

Salm 78:10-23 Salmau Cân 1621 (SC)

10. Cyfammod Duw a wrthodent,ni rodient yn ei Gyfraith,

11. Anghofio’i wyrth a welsent gynt,a’i ddeddfau oeddynt berffaith.

12. Yn nhir yr Aipht: ym maes Zoan,gwnaeth Duw gyflafan fwyfwy.

13. Rhoi dwfr y mor yn ddau dwfr crych,a’r llawr yn sych i drammwy.

14. Y dydd mewn niwl, y nos a thân,tywysai’n lân ei bobloedd:

15. Holldi’r creigiau a’i troi’n llynniau,a llenwi ei lu a dyfroedd.

16. Er tynnu dwfr o’r garreg lâs,er llithro’n loyw frâs ffrydau:

17. Yn yr anialwch digient Dduw,chwanegent amryw feiau.

18. Yn y diffaithwch profent Dduw,oes fwyd i fyw? meddylient:

19. A all Duw gael i’n ymma fwyd,mewn cyfryw lochwyd? dwedent.

20. Er taro’r graig a rhedeg dwr,yn ffrydau, cyflwr diball:A eill efe roi i’n fara’ a chig,i’n cadw yn ddiddig ddiwall?

21. Pan glybu Duw yr araith hon,fel tân yn wreichion nynnodd,Yn Iago ac yn Israel,gan lid yn uchel digiodd.

22. A’i ddig oedd am na chredent hwyi Dduw a’i fwyfwy fowredd,Ac na welent pa iechyd oeddyn ei weithredoedd rhyfedd.

23. Gorchymmyn wybren, a’i gwarhau,egoryd drysau’r nefoedd:

Darllenwch bennod gyflawn Salm 78