Hen Destament

Salm 78:1-11 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fy mhobl i gyd gwrandewch fy neddf,a boed fy ngreddf i’ch calon,Clust ymostyngwch a’m genau,i ystyr geiriau ffyddlon.

2. Mewn diharebion, i barhau,fy ngenau a egoraf:A hen ddamhegion oedd ar hydy cynfyd a ddangosaf.

3. Y rhai a glywsom gynt eu bod,ac ym yn gwybod hefyd,Ac a fynedodd yn ddiau,ein tadau er y cynfyd.

4. Heb gel mynegwn ninnau’n ffraeth,hyn iw hiliogaeth hwythau:Canmolwn Dduw i’r oes a ddel,ei nerth a’i uchel wrthiau.

5. Felly gorchmynnodd ef fod cof,yn Jagof: ac i’r hynafYn Israel ddysgu iw blant,ogoniant y Goruchaf.

6. Fel y gwypid o oes i oes,y rhoes ef ei dystiolaeth:O Dâd i fab, o fâb i wyr,i gadw llwyr wybodaeth.

7. Gobeithio’n Nuw, cofio ei waith,y sydd mal rhaith eneidiol:I gael cadw ei orchymmyn,rhoes Duw’r wers hyn yn rheidiol,

8. Rhag ofn mynd o’r genhedlaeth hynyn gyndyn ac anufydd:A chalon wan, ac yspryd gwael,heb afael gyda’i llywydd.

9. Eu tadau, fel plant Ephraim,yn arfog lym er saethu,Troesant eu cefnau yn y gâd,ymroi a dadynylu.

10. Cyfammod Duw a wrthodent,ni rodient yn ei Gyfraith,

11. Anghofio’i wyrth a welsent gynt,a’i ddeddfau oeddynt berffaith.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 78