6. Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,heb gael amrantun, chwiliwnA chalon effro, genau mud,â’m hyspryd ymddiddanwn:
7. Ai’n dragywydd y cilia’r Ion?a fydd ef bodlon mwyach?
8. A ddarfu byth ei nawdd a’i air?a gair ei addaw bellach?
9. Anghofiodd Duw drugarhâu?a ddarfu cau ei galon?A baid efe byth (meddwn i)fal hyn â sorri’n ddigllon?
10. Marwolaeth ym’ yw’r meddwl hwn:a throis yn grwn i gofioEi fawr nerth gynt: cofio a wnaf,waith y Goruchaf etto.
11. Cofiaf dy weithredoedd (f’Arglwydd)a’th wrthiau hylwydd cofiaf,
12. Am bob rhyfeddod a phob gwaith,â myfyr maith y traethaf.
13. O Dduw: pa Dduw sydd fal ti Dduw?dy ffordd di yw’n sancteiddiol:
14. Dy waith dengys dy nerth i’r byd,pair yn’ i gyd dy ganmol.
15. Dy nerth fawr hon a ro’ist ar led,wrth wared yr hen bobloedd,Jagof, a Joseph, a fu gaeth,a’i holl hiliogaeth luoedd.
16. Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,a dychryn cyn eu symmud.