Hen Destament

Salm 77:1-9 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fy llais at Dduw, pan roddais lef,fy llais o’r nef fo’i clybu:A’m llais gweddiais ar Dduw Ner,pan oedd blinder yn tarddu.

2. Y dydd y rhedai ’mriw, a’r nosni pheidiai achos llafur,Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,a’m hoes yn gwrthod cysur.

3. Yna y cofiwn Dduw a’i glod,pan syrthiai drallod enbyd:Yna gweddiwn dros fy mai,pan derfysgai fy yspryd.

4. Tra fawn yn effro, ac mewn sann,heb allel allan ddwedyd,

5. Ystyriais yna’r dyddiau gynt,a’r helynt hen o’r cynfyd.

6. Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,heb gael amrantun, chwiliwnA chalon effro, genau mud,â’m hyspryd ymddiddanwn:

7. Ai’n dragywydd y cilia’r Ion?a fydd ef bodlon mwyach?

8. A ddarfu byth ei nawdd a’i air?a gair ei addaw bellach?

9. Anghofiodd Duw drugarhâu?a ddarfu cau ei galon?A baid efe byth (meddwn i)fal hyn â sorri’n ddigllon?

Darllenwch bennod gyflawn Salm 77