9. Nid oes un arwydd in’ iw gael,na phrophwyd diwael destyn,Na gwybedydd, a wyr pa hyd,y pery’r byd i’n herbyn.
10. Dywaid di pa hyn (o Dduw Ion)y gwna d’elynion warthrudd?A rydd dy gâs ei gabledd friarnat ti yn dragywydd?
11. Paham y tynni’n ol dy law,(sef dy ddeheulaw berffaith,Hon sydd i’th fonwes) allan tynn,a difa d’elyn diffaith.
12. Cans o’r dechreuad Duw ei hunydyw fy nghun a’m brenin,Fe a wnâ iechwydwriaeth hir,i bawb trwy’r tir a’i dilin.
13. Parthu a wnaethost di â’th nerthy mor, a’i anferth donnau,Gwahenaist, torraist, uwch y don,bennau y blinion ddreigiau.
14. Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)y Lefiathan anferth,I’th bobl yn fwyd dodaist efo,wrth dreiglo yn y diserth.
15. Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn:A diysbyddaist yn dra sychafonydd dyfr-grych cedyrn.
16. Di biau’r dydd, di biau’r nos,golau a haul-dlos geinwedd:
17. Seiliaist y ddaiar, lluniaist hâf:a gauaf o’th ogonedd.